Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Rhagfyr 2022
Amser:
11.30 -
17.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13063
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Jack Sargeant AS (yn lle Ken Skates AS) Jayne Bryant AS (yn lle Ken Skates AS) |
Tystion: |
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Jacob Ellis, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Heledd Morgan, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Karin Phillips, Llywodraeth Cymru James Searle, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates.
Roedd Jack Sargeant yn ddirprwy ar gyfer eitemau 1-4 ar yr agenda ac roedd Jayne Bryant yn ddirprwy ar gyfer gweddill y cyfarfod.
2 Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol - sesiwn dystiolaeth pedwar
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan:
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru
James Searle, Pennaeth y Tîm Trosedd a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4 ac 8 a 9 y cyfarfod.
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
4 Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol: trafod y materion allweddol
Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a chytunwyd i ofyn am wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â nifer o bwyntiau a godwyd yn ystod yr ymchwiliad.
5 Gwaith craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan:
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Jacob Ellis, Arweinydd Ysgogi Newid: Materion Cyhoeddus a Rhyngwladol
Heledd Morgan, Prif Wneuthurwr Newid
6 Gwaith craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth bellach gan:
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Jacob Ellis, Arweinydd Ysgogi Newid: Materion Cyhoeddus a Rhyngwladol
Heledd Morgan, Prif Wneuthurwr Newid
7 Papurau i’w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
7.1 Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar drais ar sail rhywedd ac anghenion menywod mudol.
7.2 Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Tlodi Tanwydd a’r rhaglen Cartrefi Cynnes
7.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch Ymchwiliad i Benodiadau Cyhoeddus
8 Gwaith craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth.
9 Blaenraglen waith
Bu’r Aelodau’n trafod y Flaenraglen Waith.